Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
25 Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5668
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.29.
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.44
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7078 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7097 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus a’r llythyr o benderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin, gan gynnwys datganiad llafar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau nesaf a amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys sefydlu Comisiwn o arbenigwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chadw at ei haddewid i ddarparu ffordd liniaru'r M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus Annibynnol cyn 4 Mehefin 2019.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys y tagfeydd ar yr M4 hyd yn hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
2 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
Yn cydnabod bod tagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn llesteirio economi Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw fesurau lleddfu, yn absenoldeb ffordd liniaru, yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
9 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd yn rhan o becyn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
1 |
31 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM7097 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus a’r llythyr o benderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin, gan gynnwys datganiad llafar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau nesaf a amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys sefydlu Comisiwn o arbenigwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
14 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Am 17.40, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 5 munud.
Dechreuodd yr eitem am 17.45.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Derbyniwyd gwelliant 13, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 14, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 5, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 6, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 7, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 8, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 9, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 10, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 11, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 12, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.16
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019